CLUDO A DYCHWELYD

**DIWEDDARIAD COVID-19** 23/3/20

Ein blaenoriaeth yw iechyd, diogelwch a lles ein tîm a chithau ein cwsmeriaid. Fe benderfynom gau y siop ar 15/3/20 er mwyn hwyluso ymbellhau cymdeithasol er lles paw. Rydym yn parhau i werthu arlein cyhyd ag y medrwn/y cawn ond NID YDYM bellach yn cynnig yr opsiwn i Gasglu o’r Siop. Os ydych eisoes wedi gosod archeb i’w chasglu, byddwn mewn cysylltiad yn fuan i drafod opsiynau eraill. Cadwch yn ddiogel bawb, ac arhoswch adref!

Rydym yn cadw llygad ar y sefyllfa, mae ein staff i gyd unai yn gweithio o adref neu yn gweithio shifftiau arwahan ac rydym wedi cyflwyno trefn hylendid a glanhau llym yn ein ystafell pacio. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw newid i’n cyflenwadau stoc. Os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu yn y cyfnod ansicr yma cofiwch fod modd cysylltu â ni trwy ebost, dros y ffôn neu ar y rhwydweithiau cymdiethasol. Diolch am eich cydweithrediad a’ch cefnogaeth barhaus.
—-

Anelwn at anfon eitemau sydd mewn stoc cyn gynted ag y byddwn yn derbyn eich archeb, fel arfer o fewn 1-2 ddiwrnod gwaith. Cludir archebion gan y Post Brenhinol neu Parcelforce.

Bydd eitemau sydd wedi’u personoli neu sy’n cael eu gwneud yn arbennig ar eich cyfer yn cymryd rhagor o amser, gweler y cynnyrch neilltuol am fanylion. Os yw eich archeb yn cynnwys cymysgedd o eitemau wedi’u personoli ac eitemau o’n stoc, mae’n bosib y bydd eich archeb yn cael ei dal yn ôl hyd nes y bydd y pethau i’w personoli yn barod i’w hanfon. Bydd rhai eitemau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol oddi wrth y gwneuthurwyr ar ran Adra.

CLUDIANT YN Y DU (YN CYNNWYS YNYSOEDD Y SIANEL)

DYCHWELYD

Hyderwn y byddwch wrth eich bodd â’ch cynnyrch i’r un graddau â ni. Fodd bynnag, os digwydd i chi beidio, medrwch ddychwelyd yr eitemau atom ni o fewn 14 diwrnod gwaith am ad-daliad llawn neu i’w cyfnewid. Rhaid i bob eitem fod heb ei ddefnyddio yn ei bacediad gwreiddiol. Gwnewch yn siŵr fod pob parsel wedi ei selio a’i amddiffyn yn dda a’ch bod wedi cynnwys manylion yr archeb a’r rheswm dros eu dychwelyd. Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu a thalu am ddychwelyd cynnyrch ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cael tystiolaeth o bostio gan na fedrwn ysgwyddo cyfrifoldeb am ddychweliadau coll neu rai a ddifrodir yn ystod cludiant. Gallwch hefyd ddychwelyd nwyddau i’n siop yng Nglynllifon.

Os yw eich nwyddau wedi eu difrodi, yn wallus neu’n anghywir, gadewch i ni wybod o fewn 24 awr o’u derbyn naill ai ar y ffôn neu drwy ebost ac fe wnawn ein gorau i’w hamnewid.

Ni ad-delir costau postio a phecynnu ag eithrio os yw’r nwyddau’n wallus neu’n anghywir.

Yn sgil natur nwyddau wedi’u personoleiddio, ni allwn gynnig ad-daliad arnynt. Os yw’r personoleiddiad yn anghywir oherwydd camgymeriad gennym ni, neu os yw’r nwyddau yn wallus, fe wnawn gynnig ad-daliad llawn neu amnewid yr eitem heb unrhyw gost ychwanegol.

Am resymau hylendid ni fedrwn gyfnewid na rhoi ad-daliad am y masgiau.